Atgyfeiriadau ar ôl Arestio
Mae Gwasanaeth Atgyfeirio ar ôl Arestio Cranstoun yn cynnig y cyfle i droseddwyr dorri cylch troseddu a defnyddio sylweddau. Rydym yn darparu’r gwasanaeth hwn gyda Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr a Heddlu Swydd Warwig ar hyn o bryd.
Am Wasanaeth Atgyfeirio ar ôl Arestio Cranstoun:
Mae ein timau ymroddedig a phrofiadol iawn yn gweithio yng nghanolfannau dalfa Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr a chanolfannau cyfiawnder Heddlu Swydd Warwig, gan gynnig cyngor, gwybodaeth ac atgyfeiriadau ymlaen i driniaeth ar gyfer unigolion sydd â phroblemau defnyddio sylweddau ac sydd wedi cael eu harestio gan yr heddlu.
Mae ein dull arloesol yn rhoi arbenigwyr ynghylch defnyddio sylweddau yn nalfa’r heddlu, er mwyn cynnal asesiadau trylwyr o ddarpar droseddwyr. Rydym yn cynnig asesiadau holistig ac atgyfeiriadau er mwyn rhoi sylw i anghenion unigol megis defnyddio sylweddau, iechyd meddwl, cyflogaeth, gamblo a cham-drin domestig.
Trwy fynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu, byddwn yn lleihau aildroseddu trwy gyfrwng ymyriadau amserol ac wedi’u teilwra.
Ein gwasanaeth:
- Helpu i dyfu a gwella rhaglenni Prawf Cyffuriau wrth Arestio (DToA)
- Gweithwyr cyffuriau atgyfeirio wrth arestio arbenigol sy’n gweithio ym mlociau dalfa’r heddlu, am oriau sylweddol (gan gynnwys gyda’r hwyr ac ar benwythnosau) yn cwblhau asesiadau gorfodol a gwirfoddol
- Cyfarfod pobl lle y maent – ymgysylltu,cymell a chynorthwyo newid cadarnhaol
- Ymyriadau cyflym – cwblhau asesiadau holistig yn y blociau heddlu gan ein gweithwyr
- System atgyfeirio hawdd a chyflym – system archebu digidol hawdd i’w defnyddio ar gyfer Asesiadau Gofynnol pan na fydd gweithwyr ar y safle
- Rhoi cyngor Lleihau Niwed a darparu offer i bawb, er mwyn cadw pobl yn ddiogel
- Mae’r model yn gwaredu loteri cod post trwy gynnig gwasanaeth arbenigol annibynnol i bawb sy’n cael eu harestio ac yn nalfa’r heddlu
Canlyniadau:
- Lleihau aildroseddu
- Cynyddu gweithgarwch a chydymffurfiaeth â rhaglenni DToA yn sylweddol
- Gwella llwybrau trin
- Darparu cyflenwadau a chyngor lleihau niwed sy’n achub bywydau
- Rhoi hwb i ganlyniadau cymdeithasol ac iechyd troseddwyr
- Addysgu defnyddwyr gwasanaeth am effaith defnyddio sylweddau ar droseddu
- Arbed arian i drethdalwyr
Location(s)
Related News
The Cranstoun Response to Part 3 of the Independent Review of Prison Capacity
In August, the government published Part 3 of the Independent Review of Prison Capacity which aimed to: consider why prison supply and demand did...
Read MoreResponse to the London Drugs Commission
Today, the independent London Drugs Commission has published its long-awaited report which focuses primarily on cannabis use in the capital, making 42 recommendations. The...
Read MoreCranstoun Response to Independent Sentencing Review
We broadly welcome the UK Government commissioned Independent Sentencing Review and its commitment to expanding the use of Community Sentence Treatment Requirements (CSTRs) as...
Read More