Cyfiawnder Troseddol
Dargyfeirio pobl o’r system cyfiawnder troseddol, torri cylch defnyddio sylweddau a throseddu a chynorthwyo ail gyfleoedd. Credwn mewn addysg ac ymyrraeth gynnar, ac rydym yn gweld y potensial ym mhob un ohonom.
Quick Links
Dolen i weld y dudalen hon yn Saesneg.
Pam bod Cranstoun yn helpu
Rydym yn gweithio gyda’r system cyfiawnder troseddol i dorri cylch troseddu a defnyddio sylweddau mor gynnar ag y bo modd. Trwy ymgysylltu â’n gwasanaethau, bydd pobl yn cael y cyfle i wneud newidiadau cadarnhaol i wella eu bywydau a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.
Ar hyn o bryd, mae Cranstoun yn cynnal nifer o Wasanaethau Cyfiawnder Troseddol ar draws rhanbarthau, gan gynnwys Atgyfeirio ar ôl Arestio, DIVERT™ (dargyfeirio cyffuriau cyn arestio), Trais sy’n Gysylltiedig ag Alcohol, a Cham-drin Domestig sy’n Gysylltiedig ag Alcohol. Rydym hefyd yn cynnig triniaeth defnyddio sylweddau seicogymdeithasol yn CEF Birmingham.
Trwy roi’r unigolyn wrth wraidd ein cymorth, sicrhau bod empathi yn ganolog a chynnig gwybodaeth a dealltwriaeth, gallwn greu cymunedau mwy diogel trwy leihau aildroseddu a gwella mynediad i wasanaethau.
Sut mae Cranstoun yn helpu
Mae Cranstoun yn gwneud gwaith uniongyrchol gyda sefydliadau statudol a sefydliadau trydydd sector yn y system cyfiawnder troseddol er mwyn cynorthwyo ac addysgu troseddwyr, dioddefwyr, tystion a’r gymuned ehangach. Trwy gynnig dulliau cymorth ac ymyrraeth amgen, gallwn greu newid cadarnhaol ym mywydau pobl.
Rydym yn arbenigo mewn gwasanaethau yn y ddalfa a thu hwnt i’r ddalfa, gan gynorthwyo wrth gynllunio systemau i wella llwybrau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Gall Cranstoun gynnig y cymorth canlynol:
- Asesu holistig sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Cyngor a gwybodaeth wedi’i theilwra
- Atgyfeirio ymlaen i gyngor a thriniaeth arbenigol
- Hyfforddiant a chyflenwi Naloxone
- Rhaglenni addysg i roi sylw i drais sy’n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau
- Cymorth ar gyfer cysylltiadau cymunedol a gyda’r heddlu
- Cymorth ar ffurf ymyrraeth gynnar
Mae gan bawb eu taith eu hunain, eu profiad eu hunain a’u llwybr eu hunain mewn bywyd. Yn Cranstoun, rydym yn deall hyn, a byddwn wastad yn ceisio gweithio gydag unigolion, systemau a sefydliadau i sicrhau’r gorau gan y rhai sy’n ymgysylltu gyda ni.
Trowch at y rhaglenni a gynigir isod i ddysgu mwy.
Programmes
DIVERT®
DIVERT® yw rhaglen dargyfeirio cyffuriau cyn arestio Cranstoun, ar gyfer y rhai y bydd yr heddlu yn darganfod symiau bychain o sylwedd a reolir yn eu meddiant. Ei nod yw addysgu unigolion i wneud dewisiadau gwybodus am eu defnydd o gyffuriau, a’u dargyfeirio i wasanaethau cymorth am unrhyw anghenion a nodir. Gellir darparu’r rhaglen trwy gyfrwng Canlyniad 22 neu Benderfyniadau Cymunedol.
Dysgwch fwyGwasanaeth Atgyfeirio ar ôl Arestio Cranstoun
Mae Gwasanaeth Atgyfeirio ar ôl Arestio Cranstoun yn cynnig y cyfle i droseddwyr dorri cylch troseddu a defnyddio sylweddau. Mae ein timau o staff ymroddedig yn gweithio yng nghanolfannau dalfa’r heddlu gan gynnig cyngor, gwybodaeth ac atgyfeiriadau i driniaeth bellach. Mae Cranstoun yn darparu Rhaglen Rhybuddiad Amodol gyda Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, a ddarparir ar draws ardaloedd pob awdurdod lleol yn ardal Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr gan gynnwys Cofentri, Solihull, Birmingham, Sandwell, Walsall, Dudley a Wolverhampton.
Dysgwch fwyPenderfyniadau y tu Allan i’r Llys
Lleihau aildroseddu a mynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddoldeb trwy ddarparu Rhybuddion Amodol arbenigol.
Dysgwch fwyGwasanaethau Trin a Chymorth Seicogymdeithasol yn CEF Birmingham
Mae Cranstoun yn cynnig cymorth seicogymdeithasol i bobl yn CEF Birmingham sydd â hanes o ddefnyddio cyffuriau ac alcohol neu sy’n defnyddio cyffuriau neu alcohol ar hyn o bryd.
Dysgwch fwyRelated News
The Cranstoun Response to Part 3 of the Independent Review of Prison Capacity
In August, the government published Part 3 of the Independent Review of Prison Capacity which aimed to: consider why prison supply and demand did...
Read MoreResponse to the London Drugs Commission
Today, the independent London Drugs Commission has published its long-awaited report which focuses primarily on cannabis use in the capital, making 42 recommendations. The...
Read MoreCranstoun Response to Independent Sentencing Review
We broadly welcome the UK Government commissioned Independent Sentencing Review and its commitment to expanding the use of Community Sentence Treatment Requirements (CSTRs) as...
Read More
