×

Mae Cranstoun yn cynnig cymorth seicogymdeithasol i bobl yn CEF Birmingham sydd â hanes o ddefnyddio cyffuriau ac alcohol, neu y maent yn defnyddio cyffuriau ac alcohol ar hyn o bryd.

Dolen i weld y dudalen hon yn Saesneg.

 

 

Rydym yn darparu amrediad o ymyriadau ar gyfer y rhai sy’n cael eu heffeithio gan alcohol a chyffuriau.  Mae ein tîm medrus a thosturiol yn cydweithio’n agos gyda phobl sydd yn y carchar er mwyn newid bywydau mewn ffordd gadarnhaol, gwella bywydau ac achub bywydau.

Rydym yn cyfuno hanes o arbenigedd ym maes triniaeth ac adfer gyda dulliau gweithredu arloesol, gan gynnwys y rhai yr ydym yn eu helpu wrth wella cynllun y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.

Sut mae Cranstoun yn helpu:

  • Ymyriadau un-i-un gan gynnwys gwaith ysgogiadol a lleihau niwed
  • Cynorthwyo cleifion i wneud newidiadau cadarnhaol er mwyn paratoi ar gyfer eu rhyddhau i’r gymune
  • Gweithio mewn ffordd ystyriol o drawma er mwyn cynnig cyngor, eiriolaeth ac ymyriadau seicogymdeithasol
  • Gweithio mewn partneriaeth agos ag asiantaethau eraill er mwyn sicrhau bod unigolion yn manteisio ar ystod lawn o wasanaethau
  • Nodi a rhoi sylw i sbardunau a sefyllfaoedd risg uchel a llunio cynlluniau atal llithro’n ôl
  • Cyngor ynghylch atal llithro’n ôl a gorddos, ac archwilio canlyniadau defnyddio cyffuriau
  • Hyfforddiant a darparu naloxone ar ôl rhyddhau

Ein gwasanaeth:

  • Cynhelir sgriniad cychwynnol ar ddiwrnod llawn cyntaf unigolyn yn y ddalfa yn y ganolfan noson gyntaf
  • Rydym yn darparu gwybodaeth am y gwasanaeth ac yn cynnig cyngor lleihau niwed perthnasol, ac yn hysbysu carcharorion sut i fanteisio ar y gwasanaeth os bydd gofyn iddynt ei gael pan fyddant yma
  • Os byddant yn cytuno ymgysylltu â ni, bydd Arweinydd Tîm yn neilltuo Gweithiwr Allweddol iddynt
  • Bydd y gweithiwr allweddol sy’n cael eu neilltuo yn cwblhau asesiad a chynllun gofal, gan drafod atgyfeiriad cymunedol a chynnig cyngor lleihau niwed
  • Mae ymyriadau yn cynnwys gwaith un-i-un a mynediad i grŵp
  • Cynnig cymorth gyda chyfarfodydd amlddisgyblaethol
  • Cynnig gwasanaeth pwrpasol yn Adain Adfer Cyffuriau y carchar
  • Mae cynllunio ar gyfer rhyddhau yn cynnwys cynllunio i gynnwys parhad triniaeth, trefnu apwyntiadau cymunedol, gwaith lleihau niwed, gwaith atal llithro’n ôl a hyfforddiant naloxone

 

Criminal Justice Icon

Related News

The Cranstoun Response to Part 3 of the Independent Review of Prison Capacity 

In August, the government published Part 3 of the Independent Review of Prison Capacity which aimed to: consider why prison supply and demand did...

Read More

Response to the London Drugs Commission

Today, the independent London Drugs Commission has published its long-awaited report which focuses primarily on cannabis use in the capital, making 42 recommendations. The...

Read More

Cranstoun Response to Independent Sentencing Review

We broadly welcome the UK Government commissioned Independent Sentencing Review and its commitment to expanding the use of Community Sentence Treatment Requirements (CSTRs) as...

Read More

 

Sorry, we were unable to process your subscription request. Please try again.
Thank you for signing up! Please check your emails to confirm your subscription.

Sign up to our emails

Join the Cranstoun community! Sign up today and get our latest news delivered to your inbox, plus inspirational stories and ways to get involved with our life-changing work.