DIVERT®
DIVERT yw rhaglen dargyfeirio cyffuriau cyn arestio Cranstoun ar gyfer y rhai y bydd yr heddlu yn darganfod bod symiau bychain o sylwedd a reolir yn eu meddiant.
Am DIVERT®
Mae DIVERT yn trawsnewid yr ymateb i droseddau meddiant cyffuriau trwy ddisodli’r dulliau arestio neu rybudd traddodiadol gydag ymyriadau ystyrlon sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Rydym yn cynnig addysg a chymorth i unigolion dorri cylch aildroseddu a gwella eu cyfleoedd mewn bywyd.
Yn aml, canlyniad ymddangosiad llys i’r rhai sy’n cael eu cyhuddo o gyflawni troseddau cyffuriau ar lefel isel yw dirwy neu ddedfryd o garchar am gyfnod byr. Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu bod dedfrydau byr yn y carchar yn aml yn arwain at y troseddwr yn cyflawni mwy o droseddau yn y tymor hir.
Mae DIVERT yn cynnig dull amgen sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddau bod ym meddiant cyffuriau.
Cynigir cyrsiau a llwybrau trin i oedolion a phobl ifanc y darganfyddir bod sylweddau a reolir fel heroin, cocên, canabis, amffetaminau a sylweddau seicoweithredol newydd yn eu meddiant. Rhaid bod y symiau dan sylw yn awgrymu bod y meddiant at ddefnydd personol.
Sylwer: Nid yw’r rhaglen ar gael i’r rhai sydd wedi cael eu dal am ‘feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi’.
Mae cwrs DIVERT yn cynnwys:
- Cyngor lleihau niwed am gyffuriau penodol
- Cyngor am Naloxone a’i roi
- Effaith economaidd defnyddio cyffuriau a’u heffaith ar ffordd o fyw
- Cyngor a chymorth unigol wedi’i deilwra
- Atgyfeiriadau i driniaeth arbenigol
Mae rhaglen DIVERT wedi creu effaith gadarnhaol a gwerth parhaus i nifer o’n cyfranogwyr ac mae’n parhau i wneud hynny.
Manteision DIVERT:
- Lleihau aildroseddu a niwed
- Arbed amser a chost
- Dull atgyfeirio hawdd a chyflym i heddweision
- Dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnig ymateb cyflym
- Cynnig cymorth ac ymyrraeth ar yr adeg gywir
- Atal
- Atal mynediad i’r system cyfiawnder troseddol mewn ffordd briodol
- Gwella cysylltiadau cymunedol/yr heddlu
Related News
The Cranstoun Response to Part 3 of the Independent Review of Prison Capacity
In August, the government published Part 3 of the Independent Review of Prison Capacity which aimed to: consider why prison supply and demand did...
Read MoreResponse to the London Drugs Commission
Today, the independent London Drugs Commission has published its long-awaited report which focuses primarily on cannabis use in the capital, making 42 recommendations. The...
Read MoreCranstoun Response to Independent Sentencing Review
We broadly welcome the UK Government commissioned Independent Sentencing Review and its commitment to expanding the use of Community Sentence Treatment Requirements (CSTRs) as...
Read More